Be sy’ mlaen?

Leela James




Leela James

Neuadd Ogwen

Mai 11

Daeth y gantores/gyfansoddwraig R&B Leela James i’r amlwg yn 2005 gyda’i halbwm cyntaf A Change Is Gonna Come. Derbyniodd Leela enwebiad Gwobr Soul Train ar gyfer Artist R&B ac enwebiad Gwobr NAACP ar gyfer Artist Newydd. Mae Ms. James wedi mynd ymlaen i recordio a rhyddhau saith LP, gan gynnwys saith o’r 20 Sengl R&B mwyaf llwyddianus ac dau drac Rhif Un ar y Siartiau Billboard. Roedd ei sengl “Complicated” ar frig y siartiau yn haf 2021 am dair wythnos yn olynol. Enillodd Leela hefyd Wobr The Soul Train yn 2014 a chafodd enwebiad NAACP arall ar gyfer y Cydweithrediad R&B Gorau yn 2021. Mae ei baled emosiynol “Fall For You” bellach yn glasur ac wedi gwerthu dros 500,000 o unedau. Mae Leela yn adnabyddus am ei pherfformiadau swynol, gafaelgar ac mae wedi rhannu’r llwyfan gydag ystod eang o artistiaid yn amrywio o’r chwedlonol James Brown, Robert Randolph a The Isley Brothers i Maxwell a Fantasia.

£24

Tocynnau yma