Be sy’ mlaen?

Catrin Finch & Aoife Ní Bhriain




Catrin Finch & Aoife Ní Bhriain

Mae’r brodor o Ddulyn Aoife Ní Bhriain yn un o feiolinyddion mwyaf amryddawn ei chenhedlaeth, yn gerddor disglair sydd yn cyfuno cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth draddodiadol ei threftadaeth Wyddelig.

Ar ochr arall y Môr Gwyddelig ar arfordir gorllewin Cymru, mae Catrin Finch hefyd wedi sefydlu ei hun yn gerddorol fel un o arweinyddion byd y delyn. . Drwy gyd-weithiau anhygoel gyda cherddorion rhyngwladol fel Cimarron, Seckou Keita a Toumani Diabate, mae hi wedi medru gwthio’r ffiniau gyda’r offeryn traddodiadol hwn.

Trwy gyfuno eu doniau, mae Aoife a Catrin wedi ffurfio deuawd ddewr ac unigryw, gan archwilio byd gerddorol o bosibiliadau, heriau a darganfyddiadau. Yn linyn cyswllt rhwng y ddwy, mae diwylliant, gwleidyddiaeth a iaith eu mamwlad.

Mae’r noson hon yn gaddo i fod yn fythgofiadwy, felly mynwch eich tocyn nawr!

19:30 - Dydd Gwener, 10 Mai

Archebu tocynnau yma