Be sy’ mlaen?

Jack Philp Dance Into the Novacene




Jack Philp Dance

Into the Novacene

Yn drawiadol yn weledol, yn gyflym ac yn edrych i’r dyfodol. Mae Into the Novacene yn waith dawns cyfoes am ddechreuadau oes newydd a byd newydd. Wedi’i greu gyda chast eithriadol o 6 pherfformiwr a’i ysbrydoli gan ymchwil a llenyddiaeth a ysgrifennwyd gan y peiriannydd a’r gwyddonydd James Lovelock, mae’r gwaith yn mynd â ni ar daith i ddyfodol. Wedi’i osod yn erbyn cefndir o gydfodolaeth rhwng natur, dynoliaeth a thechnoleg ddigidol yn cyd-fyw fel un system, mae’r coreograffi’n cyfleu’r teimladau organig hynny ym mhwll y galon, mae’n chwarae ar ymdeimlad o chwilfrydedd, o gyfarfod, o gymuned ac o undod, yn ogystal â dathlu manylrwydd brwd ac osgo rhywbeth o’r dyfodol. Yma, rydyn ni’n cerdded tua’r dyfodol gyda’r gred bod yn rhaid iddo fod yn wych, a bod yn rhaid iddo fod yn epig.

Nos Fercher 17 Ebrill

7.30pm

Theatr Bryn Terfel

Pris llawn: £16

Dros 60, myfyrwyr, dan 18: £13

Archebu tocynnau yma