Be sy’ mlaen?

Siarad Siop




Siarad Siop

Cwmni Sioe Gerdd Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn yn cyflwyno; SIARAD SIOP gan Mared Llywelyn a Lowri Mererid.

Mae Cwm Carrog yn lle braf, ac mae gweithwyr Gwalia Express yn ddigon bodlon eu byd er yr holl brysurdeb a’r gwaith caled trwy fisoedd yr haf. Mae’r clwb ar nos Wener yn lle i ymlacio, ac mae’r seibiant dros y gaeaf wastad yn rhywbeth i edrych ymlaen ato! Ond gyda chynllunia’r rheolwraig Serenity Roberts, daw tro ar fyd. Beth fydd y dyfodol i griw’r archfarchnad?

A beth fydd dyfodol Cwm Carrog?

19:30 - Dydd Iau, 4 Ebrill

Tocynnau yma