Be sy’ mlaen?

The Breath




Cabaret Pontio yn cyflwyno

The Breath

The Breath yw’r gitarydd o Fanceinion, Stuart McCallum, a’r canwr/ffliwtydd Ríoghnach Connolly. Cyfarfu’r ddau ar gylchdaith gigs y ddinas yn niwedd degawd gynta’r ganrif hon. Roedd yn ddeuawd annisgwyl, yntau’n giamstar o fri ar y gitâr, yn gyn-aelod ers tro o’r Cinematic Orchestra ac yn frodor tawel o Fanceinion, hithau’n gantores werin ac yn dipyn o gymeriad a llais pwerus i gyd-fynd â hynny. Fe wnaethant gyd-dynnu ar unwaith; ffurfiwyd The Breath yn 2016, deuawd canwr-gyfansoddwr i gyflwyno eu safbwynt cyfoes ar gerddoriaeth werin amgen.

Iddyn nhw, mae’r cyfan yn ymwneud â’r gân. Mae Connolly yn storïwr ac mae eu caneuon crefftus, gonest, personol, twymgalon yr un mor debygol o gyffwrdd â hafau plentyndod a chariad cyntaf â dadleoli diwylliannol, anghyfiawnderau ôl-drefedigaethol a galar. Ond yr hyn sy’n swynol yw dull cyflwyno angerddol Ríoghnach a’i llais rhyfeddol, ynghyd â disgleirdeb cynnil Stuart.

Mae The Breath yn hydref 2023 yn adeiladu ar eu halbwm newydd, ‘Land Of My Other’. Deg trac gwreiddiol o gerddoriaeth amrwd, hyfryd, acwstig ei anian. Caneuon sy’n adrodd straeon mewn ffyrdd sy’n lleddfu, cynhyrfu, dyrchafu, a chyffwrdd â chordiau emosiynol a fydd yn dod â dagrau o lawenydd galarnadus i’ch llygaid.

Nos Iau 28 Mawrth

8pm

Theatr Bryn Terfel

Safonol: £16

Dros 60 / dan 18 / myfyrwyr: £15

Tocynnau yma