Be sy’ mlaen?

Be sy'mlaen




Be sy’mlaen yn Neuadd Ogwen

Gig BARDD

Dydd Gwener 11 Hydref 7:30 pm

Mae Ymasiad Cerddorol Rhyngwladol Dwyieithog ac Unigryw Bardd yn mynd â’r gynulleidfa ar daith eiriol o Wreiddiau Barddonol Cymru i Ddisgo Ffync Rhydd lle mae pawb yn Un. Mewn cymysgedd o MC virtuoso a Bîtbocsio, Lwpio Byw arloesol, Kalimba Trydanol, Fiolin Gwerin, Organ Jazz, Gitar Blues a Barddoniaeth Gair Llafar, mae tri aelod Bardd yn cymysgu eu swn trwy gariad unol o guriadau gwych, geirio anhygoel a cherddoriaeth rhagorol o bob math.

Yr artist Gair Llafar gwobrwyedig, Martin Daws (Awdur Ieuenctid Cymru 2013-16), yr MC, Bitbocsiwr, Lwpiwr Byw arwrol, Mr Phormula (Pencampwr Bitbocsio Cymru ddwywaith) a’r aml-offerynnwr anhygoel Henry Horrell (Gitar/Allweddell/Fiolin) ydi Bardd.

Mae Bardd yn dweud mai eu nod ydi “dod a be’ ydan ni ynghyd i ffurfio un swn hardd: ein gwahanol offerynnau, ein hieithoedd gwahanol, ein harddulliau cerddorol gwahanol, mae o i gyd yno i ni weithio drwy’n gwahaniaethau efo’n gilydd.”

Archebu tocyn yma

Gig ORCHESTRE LES MANGELEPA & DJ’s Racubah

Dydd Gwener 18 Hydref 7:30 pm

Mae’r arwyr yn ôl ar gyfer dathliad Mis Pobl Ddeuon. Yn wreiddiol mae Les Mangelepa o Ddwyrain Congo ac yn siarad Swahili. 40 mlynedd yn ôl fe symudodd nhw i Kenya. Maent wedi rhyddhau mwy na 13 albym ac wedi ysgrifennu rhai o ganeuon mwyaf diddorol Dwyrain Affrica. Ar eu anterth roeddent yn cadw cefnogwyr yn brysur gan gynhyrchu clasur ar ôl clasur; o Zambia i Uganda ac o Kenya i Tanzania, roedd eu trefniadau a chaneuon gwych crefftus yn cadw Dwyrain Affrica yn dawnsio. Yn y 1970au roedd eu sioeau llwyfan yn rhagorol; gwallt afro, jump-suits, bell-bottoms a esgidiau platfform. Roeddent yn nodweddiadol o’r amser ac yn awr yn eu 70au Mangelepa yw arwyr eu sain clasurol sy’n dal i ddeffro’r llawr dawnsio.

O flaen llaw £12 Drŵs £15

Archebu tocyn yma