Be sy’ mlaen?

Cyrsiau yn Stiwdio Pinewood Cymru




Cwrs Movie Magic Scheduling & Budgeting ar gyfer Cynhyrchydd Llinell ScreenSkills mewn cysylltiad â Sgil Cymru

Mae’r cwrs yma — a gefnogir gan ScreenSkills gan ddefnyddio cronfeydd y Loteri Genedlaethol a ddyfarnwyd gan Sefydliad Ffilm Prydain (BFI) fel rhan o raglen Sgiliau Ffilm y Dyfodol — yn rhoi hyfforddiant llawn mewn Movie Magic Scheduling a Movie Magic Budgeting. Mae’n canolbwyntio ar swydd y Cynhyrchydd Llinell a sut mae’r pecynnau yma yn hanfodol i’w gwaith.

Mi fydd y cwrs yn rhedeg o’r 14eg- 18fed o Hydref, 2019

Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal yng nghanolfan hyfforddi Sgil Cymru yn Pinewood Studio Cymru.

Ffi cwrs - £200

Cyflwyno eich cais

Anfonwch eich CV a 250 o eiriau am pam rydych chi moen cymryd rhan yn y cwrs yma i Sgil Cymru

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma am wefan Sgil Cymru