Be sy’ mlaen?

Galeri




  • Safle Celf

Ground & Unbound

gan/by Catherine Taylor Parry 26.7.19 - 6.9.19

Agoriad Swyddogol: Dydd Sul 4.08.19 14:00yp

Estynnwn wahoddiad i chi a’ch gwesteion i agoriad swyddogol arddangosfa “Ground and Unbound” gan artist Catherine Taylor Parry ar bnawn Dydd Sul 4.08.19 am 14:00. Agorir yr arddangosfa yn swyddogol gan Lowri Mair Owen.

Mae ‘GROUND’ yn adlewyrchu diddordeb a hoffter Catherine am y tir yr oedd hi’n arfer cerdded arno. Oherwydd ei MS, mae hi bellach yn defnyddio cadair olwyn yn fwy aml, ac mae ei paentiadau yn cynnig cipolwg eithriad o fynyddoedd, llynnoedd, traethau a chaeau Cymru. Yn llawn o gyffyrddiadau haniaethol o farddoniaeth, awyrgylch a’r cof .Tra bod ‘UNBOUND’ yn ffilm arbrofol, ble mae Catherine yn dychmygu sut beth fyddai bod yn rhydd .

Croeso cynnes i bawb Lluniaeth ar gael

  • Y Wal

Dan Pritchard Ideal 22.07.19 - 6.09.19

Mae ymarfer creadigol Daniel Pritchard yn defnyddio darlun, cerflunwaith, fideo a pherfformiad i greu delweddau gweledol difyr. Gan ganolbwyntio ar y defnydd o deledu a ffilm yn ogystal â stereoteipiau diwylliannol, mae’r gwaith yn aml yn cyfuno digwyddiadau diwylliannol byd-eang a digwyddiadau hyrt er mwyn cydbwyso’r lluoedd sy’n gwrthwynebu o ddifrifoldeb a hiwmor.

  • Safle Creu

Portffolio + Codi’r Bar 21.07.19 - 31.08.19

Arddangosfa o waith celf gan aelodau ifanc Portffolio a Codi’r Bar (14-18 oed) a greuwyd mewn sesiynau o dan arweiniad artistiaid proffesiynol.

  • Clwb Celf Haf: Portreadau | Portraits

Mae’r Clwb Celf Haf nol gyda sesiynau celf i blant 5 – 11 mlwydd oed pob bore Mawrth a Mercher yn ystod gwyliau’r ysgol.

Ein cydlynydd celf a chrefft, Rebecca Hardy-Griffith sydd yn arwain y sesiynau ar y dyddiadau/themau isod:

23.07.19 - 24.07.19 Lliw

30.07.19 - 31.07.19 Portreadau

06.08.19 - 07.08.19 Comig

13.08.19 - 14.08.19 Bauhaus

20.08.19 - 21.8.19 Gwledd

27.08.19 - 28.08.19 Y gofod

£6 y sesiwn. Awgrymwn eich bod yn archebu tocynnau ymlaen llaw oherwydd y galw. Cliciwch yma i archebu tocynnau

Cynhelir y gweithdai yn ddwy-ieithog.

  • Siop Cywrain - Gwledd 4/05/19 - 31/08/19

Claire Spencer // David Holmes // Grasi // Hannah Coates Jenny Murray // Laura Cameron // Lisa Krigel // Lowri Davies Rebecca Wilson // Remon Jephcott // Twinkle & Gloom // Vania Nicholas