Be sy’ mlaen?

Nesta / Prifysgol Caerdydd




Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Caerdydd am recriwtio Cymrawd Ymchwil, y Celfyddydau ac Iechyd i weithio yng nghanolfan ymchwil Y Lab sydd wedi’i lleoli yn yr Ysgol.

Y Lab yw Labordy Arloesi Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Nesta (y sylfaen arloesi). Bydd y rôl hon yn mynd i’r afael â’r cwestiwn o sut y gall ymyriadau celfyddydol sy’n hyrwyddo lles ac yn atal materion sy’n gysylltiedig ag iechyd ddigwydd, chwarae rhan effeithiol a chynaliadwy ym mywydau pobl yng Nghymru. Mae’r rhaglen hon yn cael ei chynnal mewn partneriaeth â Nesta a Chyngor y Celfyddydau yng Nghymru.

Mae mwy o wybodaeth am ein rhaglen Celfyddydau ac Iechyd yma

Mae hon yn swydd amser llawn, 35 awr yr wythnos, ar gael ar unwaith a thymor penodol am 2 flynedd.

Mae croeso i geisiadau gan staff sy’n ceisio cyfle secondiad.

Cyflog: £ 42,036 - £ 48,677 y flwyddyn (Gradd 7)

Yn gyfrifol i’r Athro James Lewis, Cyfarwyddwr Y Lab

Am fanylion pellach cysylltwch â James Lewis Ffôn 029 2087 9874

Dyddiad yr hysbyseb wedi’i bostio: Dydd Gwener, 19 Gorffennaf 2019

Dyddiad cau: Dydd Llun, 19 Awst 2019

Byddwch yn ymwybodol bod Prifysgol Caerdydd yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar pe bai derbyniadau digonol.