Be sy’ mlaen?

Celf y Chwarelwr



15 Rhagfyr


Gweithdy creu marciau yn seiliedig ar Lechi Cerfiedig Dyffryn Ogwen

15 Rhagfyr 10am - 1pm (Am ddim!)

Byddwn yn ymateb i’r arddangosfa gelf ‘Aelwyd’ gan yr artist Sian Owen sydd yn cael ei arddangos yn Llyfrgell Gymunedol Bethesda.

Bydd cyfle i fraslunio ar safle Llys Dafydd - Coveb a grëwyd gan yr artist Ann Catrin Evans i’r diwydiant llechi.

Gan ddefnyddio cyfryngau cymysg fel rhwbiadau llechi, gludwaith a batc bydd cyfle i ddatblygu gwaith gwreiddiol a phersonol.

Beth am ddod draw i greu detholiad o waith fyddai’n addas ar gyfer datblygu eich arddangosfa eich hun, neu gyfres o gardiau yn seiliedig ar grefftwaith chwarelwyr?

Addis i unrhywun 15 +

I archebu lle, ebostiwch rhianelingeorge@gwynedd.llyw.cymru neu ffoniwch 01248 679 721