Cyfleon

Tenovus Cancer Care SingWithUs Choirs



Corau SingWithUs Gofal Canser Tenovus

Rydym yn cyfarfod bob nos Iau, 7-8pm yn Neuadd Penrhyn, Bangor (LL57 1DT) am awr o hwyl a chanu.

Ein nod yw darparu amgylchedd hwyliog a boddhaus i bob un o’n côr-aelodau – nid oes angen i chi ddarllen cerddoriaeth na bod yn ganwr profiadol, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ymweld â ni a bod yn barod i roi cynnig arni!

Bydd y côr yn ôl ar y 24ain o Awst ar ôl ein gwyliau haf, ond os hoffai unrhyw un ddarganfod ychydig mwy am y côr cyn dod i sesiwn byddwn yn gallu ateb unrhyw gwestiynau yn ein Sinathon ar y 17eg o Awst ar Prom Llandudno neu drwy e-bostio alys.bailey-wood@tenovuscancercare.org.uk