Cyfleon

Swydd - Pennaeth Cyfathrebu - Cyngor Celfyddydau Cymru



Swyddi

Pennaeth Cyfathrebu - Cyngor Celfyddydau Cymru

Rydym yn recriwtio ar gyfer swydd Pennaeth Cyfathrebu i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o hyrwyddo safbwynt cywir, cadarnhaol a gwybodus o’r Cyngor Celfyddydau, ac o’r gweithgarwch rydym yn ei gefnogi. Mae’r Pennaeth Cyfathrebu yn sicrhau ein bod yn hyrwyddo ein gwaith mewn un llais cyson, mewn modd sy’n ddeniadol ac yn hygyrch.

Mae’r Pennaeth yn arwain tîm o arbenigwyr Cyfathrebu sydd gyda’i gilydd yn datblygu deunydd print ac electronig – yn y Gymraeg a’r Saesneg – sy’n adlewyrchu gwerthoedd, uchelgeisiau a hunaniaeth y Cyngor Celfyddydau. Un o nodau allweddol y tîm yw hyrwyddo’r celfyddydau mewn ffyrdd arloesol er mwyn cyrraedd cynulleidfa newydd ac ehangach. Mae’r Pennaeth hefyd yn cydlynu’r gwaith o gyflwyno ymgyrchoedd hyrwyddo a digwyddiadau sy’n codi proffil y celfyddydau a’r Cyngor Celfyddydau ei hun.

Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Parhaol

Gradd E: Cyflog cychwynnol o £53,606

Dyddiad cau: 16/05/2024

Manylion llawn yma