Cyfleon

Gwahoddiad i'r Cwpwrdd Rhyfeddodau



Cwpwrdd Rhyfeddodau

Mae’r cas wydr yma wedi ei fenthyca gan yr artist Gareth Griffith er mwyn gwahodd arlunwyr i ymateb yn greadigol i eitemau yng nghasgliad STORIEL. Gwneir hyn drwy greu gwaith celf a fyddai’n addas i’w harddangos yn y ‘cwpwrdd rhyfeddodau’ hwn. I’w gweld ar hyn o bryd mae eitemau gan Gareth Griffith ac eitemau a wnaed yn ymateb i’r casgliad gan artist Emma Hobbins.

I ba eitem(au) o’r casgliad y byddwch chi yn ymateb? Beth a rowch chi yn y ‘Cwpwrdd Rhyfeddodau?’ Gallwch gynnig un neu gasgliad o eitemau. Cysylltwch i gyflwyno eich syniadau ac am fwy o fanylion.

ebost storiel@gwynedd.llyw.cymru

neu ffoniwch 01248 353368