Cyfleon

Gofod Gwnïo



Mae’r Gofod Gwnïo yn ôl yng Nghanolfan Cefnfaes ar ei newydd wedd. Cychwyn ar 31 Ionawr, bydd ein clwb crefftau cymunedol yn cyfarfod bob yn ail nos Fercher o 7-9 i gynnig gofod cyfeillgar, cymdeithasol i wneud ychydig o grefftau.

Bydd peiriannau gwnïo ar gael i’w defnyddio ac er y bydd gwnïwyr mwy profiadol wrth law i gynghori os oes angen, ni fydd hwn yn ddosbarth gwnïo. Mae croeso i bob math o brosiectau crefft - o frodwaith i grosio, “punch needle” i uwchgylchu dillad.

Mae’r grŵp hwn ar gyfer 15+ oed. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â gofod@ogwen.org - gobeithio gweld chi yno!