Cyfleon

Cwrs Dylunio a Chreu Gwisgoedd Theatr



Cwrs Dylunio a Chreu Gwisgoedd Theatr

Galeri

Cyfle unigryw a chyffrous i 5 unigolyn rhwng 16-30 oed i addysgu sgiliau dylunio a chreu gwisgoedd theatr ar gyfer cynhyrchiad proffesiynol bydd yn cael eu gweld ar daith ledled Cymru. Bydd y tiwtor gwnïo Debra Drake (The Great British Sewing Bee, BBC One) yn arwain sesiynau gyda goruchwyliaeth gan y dylunydd gwisgoedd Lois Prys ar gyfer creu gwisgoedd i gymeriadau gwallgof sioe gomedi nesaf Theatr Bara Caws, Mwrdwr ar y Maes, fydd yn teithio Cymru a chael llwyfan yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2024.

Cost y cwrs yw £70 am 10 sesiwn (cynllun talu ar gael).

Amser: 10:00 - 17:00

Dyddiadau:

Dydd Sadwrn, Ebrill 13

Dydd Sadwrn, Ebrill 20

Dydd Sadwrn, Ebrill 27

Dydd Sadwrn, Mai 4

Dydd Sadwrn, Mai 18

Dydd Sul, Mai 26

Dydd Sadwrn, Mehefin 1

Dydd Sadwrn, Mehefin 15

Dydd Sadwrn, Mehefin 22

Dydd Sadwrn, Gorffennaf 6

Mae’n ddisgwyliedig i’r cyfranwyr fynychu pob un sesiwn. Cysylltwchâ lowri.cet@galericaernarfon.comgydag unrhyw ymholiadau.

Ariennir y cwrs gan The Ashley Family Foundation. Cefnogir gan Galeri Caernarfon a Theatr Bara Caws.

Cofrestrwch yma