Cyfleon

Cronfa Ysbrydoli Cymunedau



Cronfa Ysbrydoli Cymunedau

Mae llenyddiaeth yn ein cysylltu ni â’n gilydd mewn cyfnod o ymraniad cynyddol ac ansicrwydd byd-eang. Mae’r straeon rydyn ni’n eu darllen, eu clywed a’u hadrodd wrth ein gilydd yn ein helpu i archwilio cymhlethdodau ein bywydau a gwneud synnwyr o’r byd. Nawr yn fwy nag erioed, mae angen grym llenyddiaeth arnon ni yn ein bywydau.

Cynllun ariannu unigryw ar gyfer digwyddiadau llenyddiaeth yw Cronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru. Mae’r cynllun yn cynnig cymorth ariannol o hyd at 50% o’r ffioedd a’r treuliau sy’n cael eu talu i awduron ar gyfer digwyddiadau llenyddol, gan gynnwys sgyrsiau, darlithoedd, gweithdai ysgrifennu creadigol a mwy. Gall y digwyddiadau hyn gael eu cynnal yn unrhyw le yng Nghymru; mewn neuaddau pentref, mewn llyfrgelloedd, mewn tafarndai, mewn ysgolion, mewn clybiau ieuenctid – a hefyd ar lwyfannau rhithwir ar gyfer grwpiau sy’n cwrdd arlein.

Darllen mwy a ceisio yma