Cyfleon

Cronfa Darganfod Cyngor Celfyddydau Cymru



Mae’r gronfa Darganfod yn cynnig grantiau o hyd at £3,000 fel y gall disgyblion rhwng 3 a 16 oed gymryd rhan mewn gweithgarwch ymarferol yn y celfyddydau mynegiannol, yn yr ysgol a’r tu allan iddi gydag ymarferwyr creadigol allanol. Mae Darganfod yn galluogi athrawon i archwilio cyfleoedd cyfoethog a dilys i wella a chyfoethogi dysgu yn y celfyddydau mynegiannol. Bydd athrawon yn gallu rhoi cyfleoedd i’w disgyblion ddarganfod, mireinio a chyfathrebu syniadau wrth feddwl yn greadigol ac ennyn eu diddordeb, eu dychymyg a’u synhwyrau.

Mae Darganfod yn cefnogi’r rhaglen ar gyfer Llywodraeth 2021-26 a’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerdd. Mae’r gronfa yn ymdrin â’r pum disgyblaeth: celf; dawns; drama; cerddoriaeth; ffilm a’r cyfryngau digidol.

Pwy a all ymgeisio?

Mae Darganfod ar gael i ariannu:

pob ysgol a gynhelir gan y wladwriaeth yng Nghymru ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 16 oed

unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru i’r rhai 3 - 16 oed

Ni allwn gefnogi addysg ôl-16 sy’n cynnwys Colegau Addysg Bellach a’r Chweched Dosbarth.

Gellir cyflwyno ceisiadau Darganfod drwy:

Ysgol a gynhelir gan y wladwriaeth

Uned cyfeirio disgyblion

Sefydliad celfyddydol / diwylliannol sydd yng Nghymru

Beth yw’r dyddiad cau?

Nid oes dyddiad cau ar gyfer Darganfod. Mae hyn yn golygu y gallwch wneud cais am arian ar unrhyw adeg. Gan amlaf, byddwch yn clywed mewn 4 wythnos waith a oedd eich cais yn llwyddiannus ai peidio. Rydym yn argymell ichi gyflwyno eich cais o leiaf 5 wythnos waith cyn dyddiad cychwyn eich prosiect i ganiatáu amser i ni brosesu eich grant. Gallwn wrthod ceisiadau sy’n ein cyrraedd llai na 5 wythnos waith cyn y gweithgarwch arfaethedig.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, croeso i chi gysylltu â ni.

E-bostiwch ni: dysgu.creadigol@celf.cymru

Manylion llawn yma