Cyfansoddwr: Jochen Eisentraut
Cerddoriaeth: Jochen Eisentraut Trio, Ffilm: Eilir Pierce
Mae’r cyfansoddwr cymeradwyol a’r cerddor jazz, Jochen Eisentraut wedi ymuno gyda gwnethurwr ffilm heb ei ail, Eilir Pierce i greu prosiect cerddoriaeth a ffilm gyffrous. Mae Triptych Jazz & Ffilm, sydd i’w weld yn y Galeri, Caernarfon nos Sul 13 Mai 2012, wedi’i saernïo o gwmpas y rhif tri, gan gymryd syniad y triptych sydd mewn triawd o baentiadau allor canoloesol. Ceir îs-thema hefyd yn archiwlio perthynas rhwng parhauster a byrhoedledd, mewn cerddoriaeth, tirwedd a diwylliant.
Yn byw yn Nhregarth ger Bethesda, mae Eisentraut yn bianydd/sacsaffonydd jazz hynod ac yn ddarlithydd rhan amser yn Ysgol Gerddoriaeth, Prifysgol Bangor. Yn ei bortffolio, ceir amrywiaeth eang o gyfansoddiadau ar gyfer ffilmiau a dramau yn cynnwys cerddoriaeth y ddrama sebon boblogaidd S4C, Rownd a Rownd.
Hefyd yn byw’n Bethesda, mae gan y gwneuthurwr ffilm annibynnol, Pierce drac-record deniadol o ffilmiau sy’n profocio’r sgrîn gyda’i steil weledol gwahanol. O fewn y prosiect hwn, ceir cyfuniad o gerddoriaeth a delweddau yn chwilota’r hyn sy’n barhaus mewn tirwedd, iaith a cherddoriaeth a mae’n eu cyfochri gyda newidiadau byw fel golau, tywydd, y natur ddynol a byrfyfyrio artistig.
Gosodir y cyfryngau newydd yn nghalon y prosiect atristig hwn hefyd. Wedi’r perfformiad byw, bydd ferswin lawn wedi’i recordio o Triptych Jazz & Ffilm ar gael i’w wylio ar YouTube a bydd modd prynu DVD o’r campwaith.
Yn ôl Eisentraut, “Mae dirywiad y cyfryngau traddodiadol fel y teledu, sinema a CD’s yn effeithio ar lawer agwedd o ddiwylliant a dyma enghraifft arall o sut mae nodwedd barhaol o’r bod dynol yn gallu cael ei drawsffurfio i mewn i rhywbeth amser byr.
“Mae YouTube bellach yn drosglwyddydd blaenaf ym myd cerddoriaeth a fideo, ac eto cathod yn dawnsio a babis yn brathu yw llawer o’i gynhwysiad. Mae Triptych Jazz & Ffilm yn hawlio’r cyfrwng yma ar gyfer deunydd o fath gwahanol.”
Dewch i brofi cerddoriaeth atmosfferig, byrfyfyrio anhygoel wedi’u cydblethu â delweddau symudol prydferth. Bydd hon yn noson hamddenol steil cabaret a bydd hefyd cyfle ecsgliwsif i glywed set gan Jochen Eisentraut Trio. Tocynnau yn £8/£7 ar gael o www.galeri.com.
Mae Triptych Jazz & Ffilm wedi’i ariannu gan Cyngor Celfyddydau Cymru.















