Y mis yma mae Pontio’n dathlu ei drydedd ŵyl flynyddol o ddweud straeon, pryd y ceir prynhawn hudolus o adrodd straeon gan ddau o storïwyr amlycaf Prydain. O 2pm ddydd Sadwrn, 25 Chwefror, bydd yr hen sgubor hardd yn Hendre Hall yn gartref i Ŵyl Hendre Ddifyr.
Yn gyntaf ar y llwyfan bydd wyneb cyfarwydd o’r gymuned leol – sef Cath Aran o Fethesda, sydd wedi ennill sawl gwobr am ei dawn ddweud straeon. Yn ogystal â pherfformio mewn gwyliau chwedleua ar hyd a lled y byd, yn cynnwys Galway, Dulyn, Calgary a Much Wenlock, ymddangosodd Cath yn Agor Drysau, Gŵyl Ryngwladol Plant, yn Aberystwyth, ac yng Ngŵyl Hendre Ddifyr gyntaf Pontio yn 2010.
Mae Cath yn gwahodd plant i eistedd gyda hi ar y carped hud wrth iddo hedfan o le i le yn ei byd dychmygol, gan ymweld â chestyll a chewri, gwrachod a thylwyth teg. Yn ei ffordd unigryw ei hun, gan ddefnyddio gwahanol wynebau a lleisiau i gyfoethogi’r stori, caiff plant eu tywys ar daith ryfeddol drwy ei straeon trawiadol o fyd hud a lledrith.
Mae ail ran y prynhawn i oedolion a phlant dros 12 oed. Am 3.15pm bydd y storïwr rhyngwladol Michael Harvey yn dod i’r llwyfan. Stori fywiog yw Ceisio Merch y Cawr / Hunting the Giant’s Daughter ac fe’i cyfoethogir gan ganeuon a cherddoriaeth gyda dylanwad jas Cymreig arnynt. Mae’r stori wedi’i seilio ar chwedl Culhwch ac Olwen, y chwedl Arthuraidd hynaf yn y Gymraeg a geir yn Y Mabinogion.
Mae’n chwip o stori antur dda, yn gyrch hudolus ar hyd a lled Cymru, drwy hen goedwigoedd tywyll, mynyddoedd tymhestlog a nosweithiau braf a serog. Mae dyn ifanc yn syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad – ond y cyfan mae’n ei wybod yw enw’r ferch. Ond yn ffodus iddo, ei gefnder yw’r Brenin Arthur, sydd â llu o farchogion dawnus a dewr yn ei lys, pob un ohonynt yn awchu am antur. Wrth i’r dyn ifanc wynebu’r hyn sy’n ymddangos yn rhestr amhosibl o dasgau i’w cyflawni, mae Arthur ei hun yn camu i mewn, gan beryglu ei deyrnas ac efallai hyd yn oed ei fywyd yn y fargen! Mae Michael yn gwau barddoniaeth Gymreig i’w gyflwyniad crefftus a chyffrous o’r hen stori, a cheir hefyd gymysgedd hyfryd o gerddoriaeth Gymreig draddodiadol a cherddoriaeth â blas jas arni, wedi ei chreu gan Stacey Blythe (acordion, telyn) a’r gantores Lynne Denman.
Mae Michael Harvey hefyd yn storïwr cyfoes sydd wedi ennill sawl gwobr am ei waith. Mae wedi ymddangos mewn gwyliau rhyngwladol pwysig ym Mhrydain, Ewrop aGogledd America, gan ddweud straeon traddodiadol o’r gwledydd Celtaidd a thu hwnt gyda hiwmor, dawn a llawer o bleser.
Meddai Dyfan Roberts, Swyddog Datblygu’r Celfyddydau yn Pontio, “Ers ein plentyndod rydym i gyd wedi mwynhau stori dda a dyma ffordd wych o ddathlu crefft y cyfarwydd.
Dewch i gael eich cipio i ffwrdd i fyd y dychymyg gan y storïwyr dawnus a nodedig yma a phrofi rhywbeth gwirioneddol wefreiddiol.
Does neb yn rhy hen i fwynhau stori dda a chyda’r pris yn ddim ond £2 y sioe, sut all unrhyw un gadw draw?”