header image  
Cystadleuaeth

Helfa Gelf

Galw ar Artisitiad

Mae Helfa Gelf yn chwilio am artistiaid i gymryd rhan yn nigwyddiad stiwdios agored 2012. Mae’r digwyddiad yn agored i artistiaid a chrefftwyr ledled y rhanbarth. Mae hwn yn gyfle gwych i artistiaid sicrhau bod eu gwaith yn cael ei weld yn y gymuned leol a chan ymwelwyr â’r ardal.

Mae Helfa Gelf yn cael ei chynnal yn siroedd Gwynedd, Conwy, Dinbych, y Fflint a Wrecsam. Rydym yn gwahodd y cyhoedd i ymweld ag artistiaid wrth eu gwaith yn eu stiwdios ac mae’n gyfle i ymwelwyr weld byd sydd fel arfer yn gudd, ac i sgwrsio â’r artistiaid a’r crefftwyr am eu prosesau creadigol.

Yn ogystal â’r Stiwdios Agored, bydd arddangosfeydd wedi’u curadu yn cael eu cynnal mewn nifer o leoliadau ledled Gogledd Cymru gydol y flwyddyn. Fel aelod o Helfa Gelf, mae eich gwaith yn cael sylw hefyd yn ein catalog ac fe fyddwch yn cael eich tudalen eich hun, i’w diweddaru fel y mynnwch, ar ein gwefan. Gallwch lwytho oriel ar-lein o ffotograffau o’ch gwaith.

Derbyniodd y prosiect hwn nawdd trwy Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Diolch i’r arian hwn, rydym yn medru gweithio gydag asiantaeth PR eleni er mwyn codi proffil y digwyddiad a’r artistiaid sy’n cymryd rhan.

Byddwn hefyd yn cynnal llawer o weithdai datblygiad proffesiynol rhad ac am ddim i helpu artistiaid i ddatblygu eu gwaith. Trefnwyd ein rhaglen hyfforddi ar ôl ymgynghori â’r artistiaid ac mae’n ateb eu gofynion penodol nhw. Mae’r gweithdai’n cynnwys y pynciau canlynol: ffotograffiaeth ddigidol, cyfryngau cymdeithasol a marchnata, creu eich deunyddiau cyhoeddusrwydd eich hun, creu ffilm o’ch stiwdio i’w lwytho ar Facebook, y wasg, cyhoeddusrwydd a marchnata a seminarau gan artistiaid a churaduron sefydledig.

Mae Helfa Gelf yn cwmpasu ystod eang o gelfyddydau gweledol ac ymarferol, gan gynnwys peintio a cherflunio, gwneud printiau, cerameg, gemwaith, gwau basgedi, cerfio pren a ffotograffiaeth. Mae’n gyfle ardderchog i’r cyhoedd i weld nid yn unig sut a ble mae artistiaid yn gweithio ond i brynu gweithiau’n uniongyrchol gan y gwneuthurwyr eu hunain.

Bydd y seithfed digwyddiad stiwdios agored blynyddol i artistiaid lleol yn cael ei gynnal ar 7-9, 14-16, 21-23 a 29-30 Medi 2012.

I gael mwy o wybodaeth am sut i wneud cais, ewch i’n gwefan www.helfagelf.co.uk neu e-bostiwch info@helfagelf.co.uk

Cymorth â Cheisiadau

 Mae ffurflen gais Helfa Gelf bellach yn fyw ar-lein!Sylweddolwn y bydd rhai ohonoch yn ei chael hi’n anodd llenwi’r ffurflen heb gymorth, felly rydym wedi trefnu dwy sesiwn gymorth lle gallwch fanteisio ar gyngor unigol gan ddylunydd ein gwefan er mwyn llenwi’r ffurflen a llwytho eich lluniau a’ch CV.

Gadewch i ni leddfu’r boen o wneud cais ar-lein!

I archebu lle yn un o’r cymorthfeydd, anfonwch e-bost at sabine@helfagelf.co.uk 

Brysiwch – nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael!Cynhelir y cymorthfeydd o 10am-3pm ar Chwefror y 3ydd a’r 24ain yn y Glasdir, Plas yn Dref, Llanrwst,  LL26 0DF

Dim Lle Addas?

Eleni, rydym yn cynnig bwrsari i artistiaid sydd eisiau llogi gofod stiwdio dros dro er mwyn gallu cymryd rhan yn Helfa Gelf. Os oes gennych ofod mewn golwg ac os oes angen help arnoch i dalu’r costau perthnasol, danfonwch gais atom erbyn dydd Llun yr 27fed o Chwefror.I lawrlwytho ffurflen gais, ewch i’n gwefan www.helfagelf.co.uk a chliciwch ar y seren goch   ”-2012 -GWNEWCH GAIS ARLEIN!”

Cwblhewch y ffurflen a’i danfon ar e-bost at sabine@helfagelf.co.uk

Neu drwy’r post at:
Helfa Gelf/Art Trail
Blwch Post 206
Penmaenmawr
LL30 9FP

Os oes yna unrhyw un yn chwilio am stiwdio ar gyfer y mis Helfa Gelf mae gennym 4 gofod ym Mharc Glynllifon, Caernarfon. Mae pob lle yn £125 am y pedwar penwythnos a fe allwch chi geisio am y bwrsari i dalu amdano (dyddiad cau 27-02-12). Mi fydd 5 artist preswyl yno fel rhan o’r helfa hefyd, cymuned bach creadigol da! E-bostiwch iard@live.co.uk neu ffoniwch 01286 830839/ 07786 567129 os oes gennych diddordeb.