header image  
Cystadleuaeth

Cerddoriaeth

Bocs
ff: 07774 730325

Bocs Bocs Bocs

Rhwydwaith cefnogol o artistiaid ifanc yw’r ‘Bocs,’ wedi ei wneud i fyny o artistiaid, cerddorion, ffotograffwyr a dylunwyr gwefannau. Mae'r grŵp ar y funud yn gweithio tuag at sicrhau lleoliad newydd a fydd yn arddangosfa, stiwdio ac yn ofod prosiectau yng nghanol Caernarfon.

www.bocs.org.uk
oriel@dafyddhardy.co.uk

Oriel Dafydd Hardy, Y Maes, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2NF

Ensemble Cymru
ff: 01248 383257 / 07817 721250

Ensemble Cymru Ensemble Cymru Ensemble Cymru

Ensemble cerddorfaol yw Ensemble Cymru sy’n hybu ystod eang o berfformiadau sy’n amrywio o berfformiadau deuawd i gerddorfa siambr 27 aelod. Bwriad y cwmni yw datblygu cwmpas teithiol cenedlaethol ac ymgymryd taith Ewropeaidd yn 2020 i hybu hanes ag etifeddiaeth Cymru drwy raglen o gerddoriaeth siambr Gymreig. Arbeniga Ensemble Cymru mewn cynnal perfformiadau cerddorol o safon i gymunedau llai ffodus ac ysgolion ar draws Ogledd Cymru.

Mae’r ensemble elusennol yn preswylio ym mhrifysgol Bangor (ble mae’r swyddfeydd), yr Ŵyl Gerdd genedlaethol Cymru, ag o fis Medi 2010 yn Venue Cymru. Bydd yr Ensemble yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 yn 2011-2012.

www.ensemblecymru.co.uk
peryn@ensemblecymru.co.uk

d/o Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG

Therapiau Celfyddydau BIPBC
ff:

Therapiau Celfyddydau BIPBC Therapiau Celfyddydau BIPBC Therapiau Celfyddydau BIPBC

Beth yw Therapi Celf? Mathau o therapi mynegiannol sy’n defnyddio’r broses greadigol i wella lles emosiynol a chorfforol yr unigolyn yw Therapi Celf. Ceir pedwar proffesiwn:

• Therapydd Celf/Seicotherapydd Celf

• Therapydd Cerdd

•Therapydd Drama

• Therapydd Symudiad Dawns

Mae Therapyddion Celf yn ymarferwyr profiadol a chymwysedig yn eu celfyddyd ddewisedig ac wedi’u hyfforddi i lefel Meistr ôl-raddedig. Maent wedi cofrestru gyda Chyngor Proffesiynau Iechyd y DU (HPC).

Ynglŷn â Therapi Celf: Y defnydd therapiwtig o gelf, cerddoriaeth, drama neu ddawns o fewn perthynas broffesiynol yw Therapi Celf, i bobl sy’n profi salwch, trawma neu heriau bywyd, a’r rheiny sy’n awyddus i ddatblygu’n bersonol. Trwy greu celf, ymgysylltu â cherddoriaeth a myfyrio ar y cynnyrch a’r prosesau, gall pobl ddod yn fwy ymwybodol ohonynt eu hunain ac eraill, ymdopi â symptomau, straen a phrofiadau trawmatig a gwella galluoedd gwybyddol.

Ynglŷn â’r therapydd: Gweithwyr proffesiynol a hyfforddwyd yn y celfyddydau ac mewn seicotherapi yw therapyddion celf. Maent yn gwybod llawer am ddatblygiad dynol, damcaniaethau seicolegol, arfer clinigol, traddodiadau artistig, a photensial creadigedd i iachau. Maent yn defnyddio’r cyfrwng creadigol i asesu, trin ac ymchwilio.

Lle maent yn gweithio: Bydd therapyddion celf yn gweithio gyda phobl o bob oed: unigolion, cyplau, teuluoedd, grwpiau a chymunedau. Maent i’w canfod yn bennaf yn y GIG, y Gwasanaethau Cymdeithasol a lleoliadau eraill dan adain y llywodraeth fel Gwasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi. Gallant ddarparu gwasanaethau, yn unigol ac fel rhan o dimau clinigol, mewn lleoliadau sy’n cynnwys iechyd meddwl; anableddau dysgu; datblygiad ac iechyd plant; meddygaeth gorfforol a sefydliadau fforensig. Y tu hwnt i leoliadau clinigol, byddant yn ymarfer mewn rhaglenni allgymorth yn y gymuned; ysgolion, cynlluniau byw â gofal ychwanegol; cartrefi nyrsio; stiwdios agored a chymorthfeydd annibynnol yn y sector annibynnol, elusennol a gwirfoddol.

Mae therapyddion Celf a Cherddoriaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithio i’r gwasanaethau canlynol:

• Iechyd Meddwl Oedolion (gofal eilaidd a chychwynnol)

• Iechyd Meddwl Fforensig Oedolion (Uned Gadarn Ganolig)

• Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/tudalen/48047
Elizabeth.Aylett@wales.nhs.uk