header image  
Cystadleuaeth

Orielau

Amgueddfa ac Oriel Gwynedd
ff: 01248 353368

Amgueddfa ac Oriel Gwynedd Amgueddfa ac Oriel Gwynedd Amgueddfa ac Oriel Gwynedd

Oriel
Mae gan yr oriel raglen eang o arddangosfeydd sy’n dangos gwaith celf gan artistiaid lleol a rhyngwladol. Yn newid yn rheolaidd, mae’r oriel yn gyson yn cynnig ysbrydoliaeth.

Amgueddfa
Dodrefn Cymreig, tecstilau, celf, archaeoleg, eitemau o hanes cymdeithasol….Wedi ei lleoli yn y cyn Ganon-dy, mae Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor yn llawn o storïau o Wynedd a’r ardal gyfagos. Ymysg rhai o’r trysorau y gallwch fwynhau y mae cleddyf Rhufeinig o Segontiwm, y ‘Welsh Not’, model o bont grog Telford, Coron Brenin Enlli a llawer mwy.

Siop
Mae’r siop yn gwerthu cymysgedd o grefftau unigryw a wnaed â llaw gan gynnwys crochenwaith, gemwaith, cardiau cyfarch a phrintiau. Mae Cynllun Casglu'r Principality sef cynllun credyd di-log, ar gael i unigolion brynu gwaith celf a chrefft wreiddiol a chyfoes o’r oriel a’r siop.

Mae’r staff wrth law i ateb eich cwestiynau.

Mae gennym gefnogwyr bywiog iawn, sef Cyfeillion yr Amgueddfa ac Oriel Gwynedd yn cefnogi ein gwaith trwy godi a hyrwyddo’r casgliadau. Croesewir aelodau newydd at y Cyfeillion.

www.gwynedd.gov.uk/amgueddfeydd
amgueddfagwynedd@gwynedd.gov.uk

Ffordd Gwynedd, Bangor, LL57 1DT

Bill Swann Glass
ff: 01766 515428

Bill Swann Glass Bill Swann Glass Bill Swann Glass

Yn arddangos gwaith gwydr unigryw Bill Swann. Ar agor drwy drefniant.

www.billswannglass.co.uk

Stiwdio Glaslyn, Ffordd Glaslyn, Porthmadog, Gwynedd LL49 9EG

Bocs
ff: 07774 730325

Bocs Bocs Bocs

Rhwydwaith cefnogol o artistiaid ifanc yw’r ‘Bocs,’ wedi ei wneud i fyny o artistiaid, cerddorion, ffotograffwyr a dylunwyr gwefannau. Mae'r grŵp ar y funud yn gweithio tuag at sicrhau lleoliad newydd a fydd yn arddangosfa, stiwdio ac yn ofod prosiectau yng nghanol Caernarfon.

www.bocs.org.uk
oriel@dafyddhardy.co.uk

Oriel Dafydd Hardy, Y Maes, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2NF

Candace Jones / Arthaus61
ff: 01248 361166

Mae Arthaus61 yn siop ar gyfer deunyddiau Celf a Chreft. Mae gennym oriel i fyny’r grisiau yn y siop o’r enw Galeri 61. Mae gennym arddangosfa newydd pob rhyw bedair wythnos yn dangos gwaith artistiaid lleol.

Arthaus61 @hotmail.com

61 Kyffin Square, Bangor, Gwynedd, LL57 1LA

Canolfannau y Cyngor
ff: 01286 679098

Canolfannau y Cyngor Canolfannau y Cyngor Canolfannau y Cyngor

Mae Amgueddfeydd ac Orielau Cyngor Gwynedd yn trefnu rhaglen amrywiol o gelf a chrefft gan artistaid lleol a theithiol. Ceir digwyddiadau blynyddol megis y Sioe Gelf Agored a'r Ffair Grefftau cyn y Nadolig. Rhoddir cyfle i artistiaid ifanc Gwynedd arddangos eu doniau artistig yng Nghanolfan Maenofferen, Blaenau Ffestiniog.

www.gwynedd.gov.uk/celf
nestthomas@gwynedd.gov.uk

Cyfadran Datblygu, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH

Castell Penrhyn
ff: 01248 353084

Castell Penrhyn

Mae ymweliad â Chastell Penrhyn yn angenrheidiol i unrhyw us sy’n hoff o gelf. Rhyfeddwch at y casgliad rhyfeddol o waith yr hen feistri a’r papurau wal Tsieineaidd a baentiwyd â llaw. Gwelwch ffenestri gwydr lliw godidog, sidanau moethus a grisiau mawreddog a gymerodd ddeng mlynedd i’r seiri maen gorau yng Ngwynedd eu hadeiladu. Mae’r traddodiad gelf gain yn cario ‘mlaen i’r unfed ganrif ar hugain gyda dwy oriel, sydd ag arddangosfeydd sy’n newid yn gyson ag yn arddangos y gorau o artistiaid yr ardal.

www.nationaltrust.org.uk
penrhyncastle@nationaltrust.org.uk

Castell Penrhyn, Bangor, Gwynedd, LL57 4HN

Galeri
ff: 01286 685222

Galeri

Mae Galeri'n cynnig theatr/sinema 400 sedd ynghyd ag oriel gelf, caffi, bar a chyfleusterau cynadledda. Mae yno ystafelloedd i'w llogi ac mae'n gartref i 16 o fentrau creadigol.

www.galericaernarfon.com
post@galericaernarfon.com

Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SQ

Hen Feudy
ff: 01654 710914

Hen Feudy

Mae Oriel Hen Feudy a'r ardd yn cynnig lle i arddangos lluniau, crefftau, cerflunwaith, printiadau, cardiau a llyfrau. Ffoniwch os gwelwch yn dda i drefnu ymweliad.

www.saa.co.uk/art/janewhittle
Jane.tyrgawen@googlemail.com

Ty'r Gawen, Llanegryn, Tywyn, Gwynedd LL36 9UG

Oriel Glynllifon
ff: 01286 830222

Oriel Glynllifon Oriel Glynllifon Oriel Glynllifon

Mae’r siop ac oriel ar agor bob dydd, drwy’r flwyddyn. Mae’r holl waith sydd i’w weld yn cael ei wneud yn lleol neu gan artistiaid Cymreig, cyfle gwych i chi brynu gwaith celf neu grefft unigryw. Mae rhaglen o arddangosfeydd yn yr oriel a gallwch brynu unrhyw waith gwreiddiol ar gredyd di-log gyda’r cynlyn casglu.

www.gwynedd.gov.uk/parcglynllifon
parcglynllifon@gwynedd.gov.uk

Oriel Glynllifon, Parc Glynllifon, Ffordd Clynnog, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5DY

Oriel Plas Glyn Y Weddw
ff: 01758 740763

Oriel Plas Glyn Y Weddw Oriel Plas Glyn Y Weddw

Eleni mae Plas Glyn-y-Weddw'n 150 mlwydd oed ac erbyn hyn yn gartref i un o orielau pwysicaf Cymru gan arddangos gwaith ein prif artistiaid. Mae'r mynediad i'r oriel am ddim gyda bwyty a siop grefftau Cymreig o safon ar y safle.

www.oriel.org.uk
ymholiadau@oriel.org.uk

Llanbedrog, Pwllheli, Gwynedd LL53 7TT

Oriel Rob Piercy
ff: 01766 513833

Oriel Rob Piercy

Sefydlwyd Oriel Rob Piercy dros ugain mlynedd yn ôl er mwyn arddangos lluniau gwreiddiol a phrintiadau gwaith yr arlunydd o Borthmadog.

www.robpiercy.com
gallery@robpiercy.com

Stryd yr Wyddfa, Porthmadog, Gwynedd LL49 9BT

Oriel Tan yr Hall
ff: 01678 521854

Oriel Tan yr Hall Oriel Tan yr Hall

Wedi’i sefydlu tair blynedd yn ôl, mae Oriel Tan yr Hall yn arddangos a gwerthu gwaith gwreiddiol a phrintiau Penllyn a Gogledd Cymru yn gyffredinol. Yma hefyd gwelir cardiau, gwaith coed, sermaeg a gemwaith - i gyd gan grefftwyr lleol. Mae’r Oriel hefyd yn cadw llyfrau newydd ac ail-law. Mae hefyd yn cynnig gwasanaeth fframio.

www.tanyrhallgallery.co.uk
tanyrhall@btconnect.com

58 Stryd Fawr, Y Bala, Gwynedd, LL23 7AB

Oriel White Room
ff: 01766 780501

Oriel White Room

Adeilad cofrestredig o’r Ail Ganrif ar Bymtheg yn arddangos crochenwaith a cherfluniau serameg o waith Alan a Lynette Gayden, a sefydlodd Grochendy Harlech ym 1971. Hefyd yn cael ei arddangos mae gwaith crochenwyr eraill o Gymru yn ogystal â lluniau, ysgythwaith, cerfluniau, gwehyddwaith, tlysau a chardiau.

Pentre'r Efail, Harlech, Gwynedd LL46 2YG

Oriel Ysbyty Gwynedd
ff: 01286 679721 / 07789 032517

Oriel Ysbyty Gwynedd Oriel Ysbyty Gwynedd Oriel Ysbyty Gwynedd

Mae Rhaglen Celfyddyd mewn Iechyd a Lles Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn partneriaeth â Uned Celfyddydau Cymunedol, Cyngor Gwynedd yn rhaglennu cyfres o arddangosfeydd chwarterol o weithiau celf a chrefft ar gyfer Oriel Ysbyty Gwynedd. Mae’r fenter hon yn rhan o raglen celfyddyd mewn iechyd a lles ehangach sy’n cynnwys cynlluniau arloesol sy’n defnyddio’r celfyddydau i gyfrannu tuag at ofal iechyd, i hyrwyddo lles ac i wella cysylltiadau cymunedol a chyfathrebu. Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys gweithdai celfyddydol, perfformiadau cerddorol a chynllun artistiaid preswyl. Amcan Oriel Ysbyty Gwynedd yw cyfrannu’n bositif tuag at amgylchedd gofal iechyd er budd pawb sy’n defnyddio’r ysbyty yn ogystal â chynnig cyfleoedd arddangos i artistiaid i gynulleidfa amrywiol a niferus yr Ysbyty.

GwawrR@gwynedd.gov.uk

Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor.

The Gallery, Aberdyfi
ff: 01654 767319

The Gallery, Aberdyfi

Mae Claire a Glyn Davies yn peintio dyfrluniau ac wrthi'n datblygu amrywiaeth o luniau inc acrylig bywiog, printiau, cardiau yn ogystal â ffotograffau. Ar y cyd â'u merch Rowena, sydd hefyd yn artist, maent yn cynnig agwedd newydd ar dir a môr Cymru.

Mae ‘The Gallery’, Aberdyfi yn agored yn ddyddiol drwy’r flwyddyn ac yn arddangos lluniau trawiadol, dewis eang o gardiau cyfarch dethol, tlysau a nwyddau seramig. Mae gwasanaeth cyhoeddi ar gael hefyd ar gyfer artistiaid a ffotograffwyr.

www.galleryaberdyfi.co.uk
claire@galleryaberdyfi.co.uk

The Gallery, Aberdyfi, Gwynedd, LL35 0EH

Tonnau
ff: 01758 612806

Tonnau

Oriel Gelf yw Tonnau yn un o brif strydoedd Pwllheli ac sy'n arddangos gwaith arlunwyr a chrefftwyr ar thema'r môr. Gyda dros 100 o artistiaid ar y llyfrau cynhaliwn bedair arddangosfa newydd bob blwyddyn a chyhoeddwn nifer cyfyngedig o brintiadau lluniau ein harlunwyr mwyaf poblogaidd.

www.tonnau.com
llio@tonnau.com

21 Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd LL53 6NG