header image  
Cystadleuaeth

Drama

Cwmni’r Frân Wen
ff: 01248 715048

Cwmni’r Frân Wen Cwmni’r Frân Wen Cwmni’r Frân Wen

Mae Cwmni’r Frân Wen yn darparu theatr o’r safon uchaf ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n cyffroi, herio ac ysbrydoli’r gynulleidfa a’u hysgogi i edrych ar y byd o’r newydd. Gwireddir y weledigaeth uchod trwy:

Greu cynyrchiadau o’r safon uchaf posibl; Cynnig cynyrchiadau sy’n torri tir newydd o ran cynnwys a llwyfannu; Ehangu cynulleidfa ein cynyrchiadau i gynnwys pob carfan o’n cymdeithas; Adlewyrchu bywyd a hunaniaeth y Gymru gyfoes; Creu gwaith llawn angerdd sy’n dathlu amrywiaeth diwylliannol ein cymdeithas; Datblygu ysgrifennu newydd arloesol yn yr iaith Gymraeg; Mentora talentau newydd; Sicrhau cyfleon datblygu a hyfforddi i staff ac artistiaid; Cynnig cyfleon i artistiaid ddatblygu syniadau a sicrhau cefnogaeth ac arweiniad priodol; Bod yn ddewr,mentrus a chyfrifol wrth ddelio â chynnwys sensitif ; Sicrhau cynhwysiant plant a phobl ifanc ym mhob agwedd artistig o waith y Cwmni; Ymgynghori gyda phlant, pobl ifanc, y gymuned ynghyd ag ymarferwyr proffesiynol ynglŷn â darpariaeth a chyfeiriad y Cwmni; Datblygu cyfleon cyfranogi ar gyfer plant a phobl ifanc; Sicrhau bod cynyrchiadau ar gyfer plant a phobl ifanc yn cyfateb neu yn rhagori ar gynyrchiadau a lwyfennir ar gyfer oedolion Hyrwyddo theatr i blant a phobl ifanc; Codi ymwybyddiaeth y Cwmni yn genedlaethol a rhyngwladol; Datblygu stoc o gynyrchiadau y gellir eu defnyddio i feithrin cysylltiadau rhyngwladol; Sicrhau datblygiad eithaf i bob cynhyrchiad; Gwarchod adnabyddiaeth o gynulleidfa a bod yn agored i gynulleidfaoedd newydd; Darparu cynyrchiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg; Cydnabod cyfrwng y theatr fel adnodd addysgol gydol oes; Meithrin gwerthfawrogiad o berfformiadau fel profiad celfyddydol ynghyd â phrofiad addysgol; Meithrin cynulleidfa feirniadol sydd â disgwyliadau uchel o’r theatr; Gweithredu mewn modd effeithiol a chyfrifol.

www.franwen.com
post@franwen.com

Yr Hen Ysgol Gynradd, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy, Ynys Môn LL59 5HS

Theatr Bara Caws
ff: 01286 676335

Theatr Bara Caws

Ers 30 o flynyddoedd bu Theatr Bara Caws yn cynnig cynyrchiadau difyr ac amrywiol yn y gymuned yng Ngwynedd. Erys sioe glybiau'r cwmni yn uchafbwynt blynyddol i fyd y ddrama'n y sir. Mae'r cwmni'n llwyfannu tri cynhyrchiad bob blwyddyn.

tbaracaws@btconnect.com

Uned 1, Cibyn, Caernarfon, Gwynedd LL55 2BD

Theatr Ieuenctid Ardudwy
ff: 01766 770188

Grŵp Drama Ieuenctid ydym ni sy'n cyfarfod unwaith yr wythnos er mwyn annog hyder a sgiliau ymysg pobl ifanc rhwng pump ac ugain mlwydd oed.

13 Cilfor, Talsarnau, Gwynedd LL47 6YH

Therapiau Celfyddydau BIPBC
ff:

Therapiau Celfyddydau BIPBC Therapiau Celfyddydau BIPBC Therapiau Celfyddydau BIPBC

Beth yw Therapi Celf? Mathau o therapi mynegiannol sy’n defnyddio’r broses greadigol i wella lles emosiynol a chorfforol yr unigolyn yw Therapi Celf. Ceir pedwar proffesiwn:

• Therapydd Celf/Seicotherapydd Celf

• Therapydd Cerdd

•Therapydd Drama

• Therapydd Symudiad Dawns

Mae Therapyddion Celf yn ymarferwyr profiadol a chymwysedig yn eu celfyddyd ddewisedig ac wedi’u hyfforddi i lefel Meistr ôl-raddedig. Maent wedi cofrestru gyda Chyngor Proffesiynau Iechyd y DU (HPC).

Ynglŷn â Therapi Celf: Y defnydd therapiwtig o gelf, cerddoriaeth, drama neu ddawns o fewn perthynas broffesiynol yw Therapi Celf, i bobl sy’n profi salwch, trawma neu heriau bywyd, a’r rheiny sy’n awyddus i ddatblygu’n bersonol. Trwy greu celf, ymgysylltu â cherddoriaeth a myfyrio ar y cynnyrch a’r prosesau, gall pobl ddod yn fwy ymwybodol ohonynt eu hunain ac eraill, ymdopi â symptomau, straen a phrofiadau trawmatig a gwella galluoedd gwybyddol.

Ynglŷn â’r therapydd: Gweithwyr proffesiynol a hyfforddwyd yn y celfyddydau ac mewn seicotherapi yw therapyddion celf. Maent yn gwybod llawer am ddatblygiad dynol, damcaniaethau seicolegol, arfer clinigol, traddodiadau artistig, a photensial creadigedd i iachau. Maent yn defnyddio’r cyfrwng creadigol i asesu, trin ac ymchwilio.

Lle maent yn gweithio: Bydd therapyddion celf yn gweithio gyda phobl o bob oed: unigolion, cyplau, teuluoedd, grwpiau a chymunedau. Maent i’w canfod yn bennaf yn y GIG, y Gwasanaethau Cymdeithasol a lleoliadau eraill dan adain y llywodraeth fel Gwasanaeth Carchardai Ei Mawrhydi. Gallant ddarparu gwasanaethau, yn unigol ac fel rhan o dimau clinigol, mewn lleoliadau sy’n cynnwys iechyd meddwl; anableddau dysgu; datblygiad ac iechyd plant; meddygaeth gorfforol a sefydliadau fforensig. Y tu hwnt i leoliadau clinigol, byddant yn ymarfer mewn rhaglenni allgymorth yn y gymuned; ysgolion, cynlluniau byw â gofal ychwanegol; cartrefi nyrsio; stiwdios agored a chymorthfeydd annibynnol yn y sector annibynnol, elusennol a gwirfoddol.

Mae therapyddion Celf a Cherddoriaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithio i’r gwasanaethau canlynol:

• Iechyd Meddwl Oedolion (gofal eilaidd a chychwynnol)

• Iechyd Meddwl Fforensig Oedolion (Uned Gadarn Ganolig)

• Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/tudalen/48047
Elizabeth.Aylett@wales.nhs.uk