Alan a Lynette Gaydenff: 01766 780501
Crochenwaith a cherflunwaith seramig wedi’u cynhyrchu yn y stiwdio yng Nghrochendy Harlech. Gellir trefnu ymweliad o flaen llaw.
Briws, Dyffryn Ardudwy, Harlech, Gwynedd LL44 2BE
Bill Swannff: 01766 515428
Gwydr grisial lliw mewn plwm wedi'i gyflwyno'n unigryw fel croglenni, cerfluniau, tlysau cyfoes a thlysau a gwobrau i gomisiwn. Mae ei waith wedi ei arddangos yn Efrog Newydd, Tocio, Hambwrg a'r Haag yn yr Iseldiroedd.
www.billswannglass.co.ukStwidio Glaslyn, Stryd Glaslyn, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9EG
Charlotte Bellisff: 07880 706326
Rwyf yn gweithio gyda phorslen a cherameg ynghyd a phaentio a chreu gemwaith. Mae lliw a siâp fy ngherfluniau a gemwaith wedi eu hysbrydoli gan y môr, planhigion a ffurfiau organig. Ffurfir fy ngherfluniau mawr gan gasgliad o ddarnau llai wedi eu cerfio a llaw. Mae fy narluniau wedi eu hysbrydoli gan y byd naturiol a'u dylanwadu gan dirlun gogledd Cymru, a hefyd ceir casgliad o waith wedi ei ddylanwadu gan fy amser yn teithio dramor. Croesewir comisiynau ac ymweliadau o fy stiwdio drwy drefniant o flaen llaw.
www.charlottebellis.co.ukcharlotte.bellis@hotmail.com
Ty Newydd, Penisarwaun, Caernarfon, Gwynedd, LL55 3BS
Hen Feudyff: 01654 710914
Mae Oriel Hen Feudy a'r ardd yn cynnig lle i arddangos lluniau, crefftau, cerflunwaith, printiadau, cardiau a llyfrau. Ffoniwch os gwelwch yn dda i drefnu ymweliad.
www.saa.co.uk/art/janewhittleJane.tyrgawen@googlemail.com
Ty'r Gawen, Llanegryn, Tywyn, Gwynedd LL36 9UG
Iardff: 01286 830839 / 07786456129
Wedi ei leoli o fewn stad Parc Glynllifon, mae gweithdai crefft iard yn gyfle perffaith i fod yn greadigol mewn amgylchedd hardd y stad sy'n cynnwys teithiau cerdded drwy'r goedwig, cerfluniau, ardd goed a nifer o ffoliau, ffownten a rhaeadrau. Mae Parc Glynllifon filltir o'r traeth ar ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri.
Cynhelir cyrsiau celf a chrefft unigryw yma gan artistiaid preswyl y parc yn adeiladau hanesyddol gweithdai'r stad. Gallwn warantu mwynhad, creadigrwydd ac ysbrydoliaeth yn yr amgylchedd braf a chyfeillgar yma.
Mae rhestr lawn o gyrsiau 'iard' gwahanol ar gael drwy'r flwyddyn. Mae dewis eang o sgiliau yn cael ei dysgu gan artistiaid profiadol:
Ann Catrin Evans - Cerflunydd
Angela Evans - Dylunydd Gemwaith
Sioned Rowlands - Cynllunydd Blodau
Richard White - Cerfio coed
Dave Stephen - Celf Llechen
Alma Schofield - Celf Ffibr
Wini Jones-Lewis - Arlunydd
Rydym yn sicr fod rhywbeth at ddant pawb ymysg y bwrlwm creadigol yma.
iard@live.co.uk
Parc Glynllifon, Ffordd Clynnog, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5DY
Linda Caswellff: 01766 540237
Artist serameg yn gweithio’n bennaf â phorslen. Mae fy mhorslen llestr agate yn ddefnydd cyfoes o ddull traddodiadol. Mae’r lliwiau yn y clai ei hun ac nid yn addurn ar yr wyneb. Mae fy ngwaith yn cynnwys powlenni, llestri, tyrau, gemwaith a mobiliau clychsain. Mae fy stiwdio ar agor drwy drefniant y unig. Ffoniwch am gyfarwyddiadau.
www.lindacaswell.co.uklindacaswell@hotmail.com
Gilfach Wen, Bronaber, Trawsfynydd, Gwynedd LL41 4UY
Mary Matthewsff: 01766 522654 / 07858 187760
Rwyf yn creu cerfluniau cerameg mewn amrywiaeth o wahanol glai. Rwy’n mwynhau yr amrywiaeth lliwiau ac ansawdd y mae hyn yn ei gynnig. Mae fy ngwaith yn addas ar gyfer y tu mewn a’r tu allan. Mae’r gwaith yn ffigurol, gynrychiadol a llawn dychymyg; rwyf yn hoff o ddangos symudiad a theimlad yn y gwaith. Mae anifeiliaid a phobl a digonedd o ddreigiau!
www.dragonslott.co.ukmary@dragonslott.co.uk
Tŷ Drysau Derw, Ymwlch Fawr, Criccieth, LL52 0PW
Rachel Rosenff: 01248 371116
Dysgais fod yn artist, cynllunydd a gweithiwr metal o'm pen a'm pastwn fy hun gan ganolbwyntio'n bennaf ar gerflunwaith dur ac archebion penodol. Rwyf hefyd wedi arddangos lluniau a gwaith aml-gyfryngol. Croeswir ymweliadau, wedi'u trefnu o flaen llaw, i'r gweithdy.
Bryn Hyfryd, Seion, Caernarfon, Gwynedd LL55 3AF
3, Hendre Hall, Talybont, Gwynedd LL57 3YP
Tina Nealeff: 01766 771172
Fy nwylo sy'n gwneud y gwaith drwy rwygo papur clai i greu ffurfiau dynol. Mae'n broses greadigol ddigymell ac rwy'n gallu ymateb i'r clai ac mae'r clai'n ymateb i minnau. Rwy'n ymddiddori'n fawr yn y ffurf a'r natur ddynol – ein heiddilwch a'n synhwyrau.
www.tinaneale.co.ukAdwy Ddu Isaf, Stryd y Castell, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL48 6AL
Tlysau Sarah Andersonff: 01286 872367
Rwyf wedi bod yn creu tlysau arian yn fy ngweithdy yn Eryri ers 1975. Mae fy nhlysau yn cynnwys mwclis, breichledi, clustdlysau, dolennau llewys a modrwyau - pob un wedi’i gynllunio ar wahân. Ers cynllunio a chreu’r goron ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2009, mae fy ngwaith wedi troi’n llawer mwy organig gyda chromliniau a llai o linellau dwys.
www.sarahandersonjewellery.co.uksarah@andersonjewellery.co.uk
Pen-yr-allt, Fachwen, Caernarfon, Gwynedd, LL55 3HA
Tonnauff: 01758 612806
Oriel Gelf yw Tonnau yn un o brif strydoedd Pwllheli ac sy'n arddangos gwaith arlunwyr a chrefftwyr ar thema'r môr. Gyda dros 100 o artistiaid ar y llyfrau cynhaliwn bedair arddangosfa newydd bob blwyddyn a chyhoeddwn nifer cyfyngedig o brintiadau lluniau ein harlunwyr mwyaf poblogaidd.
www.tonnau.comllio@tonnau.com
21 Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd LL53 6NG


