Cae’r Gors : Canolfan Treftadaeth Kate Robertsff: 01286 831715
Dewch i Gae’r Gors, cartref plentyndod Kate Roberts. Yn ein harddangosfa amlygyfrwng cewch ddarganfod beth ysbrydolodd yr awdures, a chewch wrando ar leisiau’r gorffennol yn y bwthyn traddodiadol. Os y dymunwch drefnu ymweliad grŵp gallwn, drwy drefniant o flaen llaw, deilwra eich profiad er mwyn sicrhau eich bod yn cael ymweliad bythgofiadwy. Mae’r ganolfan hefyd ar gael i’w llogi ar gyfer cynnal cyfarfodydd, gweithdai, darlithoedd a chyrsiau. Mae’r ganolfan ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener drwy’r flwyddyn. Fydd y ganolfan hefyd ar agor ar y penwythnos o fis Mawrth i fis Hydref.
www.caergors.orgpost@caergors.org
Cae'r Gors, Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts, Rhosgadfan, Caernarfon, Gwynedd LL54 7EY
Canolfan Hanes Uwchgwyrfaiff: 01286 660 853
Canolfan gymunedol a sefydlwyd yn hen ysgoldy Eben Fardd yng Nghlynnog Fawr trwy gymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Amcan 1 Yr Undeb Ewropeaidd, Cyngor Gwynedd a Chronfa Arbrofi Eryri. Mae’r ardal yn ymestyn o’r Bontnewydd (Afon Gwyrfai) yn y Gogledd i Fynyddoedd yr Eifl yn y de ac yn cynnwys Dyffryn Nantlle. Mae’r Ganolfan yn ymhyfrydu yn ein hanes goludog ac yn creu bwrlwm o weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg e.e.:
Cyhoeddi Utgorn Cymru, cylchgrawn hanes cenedlaethol a gwladgarol, yn fisol, ar ffurf caset ar gyfer y deillion a chryno ddisg a mp3 ar gyfer tanysgifwyr; cyhoeddi cryno ddisgiau (llafar yn bennaf) ; Cyhoeddi llyfrau lleol a chardiau cyfarch ; Trefnu arddangosfeydd, darlithoedd, hen ffilmiau, a gweithgareddau diwylliannol ; croesawu cymdeithasau ac ysgolion a threfnu amryiaeth o sgyrsiau ar eu cyfer, yn cynnwys y planhigion meddyginiaethol a’r blodau sydd yn ein gardd hanesyddol a noddir gan Amgylchedd Cymru. (Trefnir ymweliadau ymlaen llaw); Datblygu archif ddigidol. Ein gweithgaredd diweddaraf yw enwi caeau Uwchgwyrfai.
Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5BT
Galeriff: 01286 685222
Mae Galeri'n cynnig theatr/sinema 400 sedd ynghyd ag oriel gelf, caffi, bar a chyfleusterau cynadledda. Mae yno ystafelloedd i'w llogi ac mae'n gartref i 16 o fentrau creadigol.
www.galericaernarfon.compost@galericaernarfon.com
Doc Victoria, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SQ
Neuadd Buddugff: 01678 520800
Rhaglen amrywiol o ffilmiau Dydd Mercher, Gwener a’r Sadwrn drwy’r flwyddyn. Cynhelir cynyrchiadau proffesiynol ac amateur ar gyfer pob oedran a llogir y neuadd ar gyfer cynnal gweithdai, cyngherddau, dramâu a dawnsfeydd.
www.gwynedd.gov.ukannrowenajones@gwynedd.gov.uk
Lôn Pensarn, Y Bala, Gwynedd LL23 7SR
Neuadd Dwyforff: 01758 704088
Gyda 354 o seddi a rhaglen greadigol sy’n cynnwys ffilm, cynyrchiadau gan gwmnïau lleol a chenedlaethol, perfformiadau ballet, opera, dramâu a chyngherddau. Mae gan Neuadd Dwyfor gymaint i’w gynnig i’r bobl leol ac ymwelwyr i’r ardal. Mae’r adeilad Fictorianaidd hwn, a adeiladwyd yn 1902 bellach yn ganolfan gelfyddydol fywiog a chyfoes ac yn gartref i lyfrgell Pwllheli.
www.gwynedd.gov.uk/neuadd-dwyforneuadd_dwyfor@gwynedd.gov.uk
Neuadd Dwyfor, Stryd Pen Lan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE
Oriel Cymruff: 01766 522530
Gwaith gwreiddiol a phrintiau gan artistiaid yn cynnwys Syr Kyffin Williams, William Selwyn a Keith Bowen. Gweled y gwaith yn Glanrafon drwy apwyntiad.
www.oriel-cymru.comsales@oriel-cymru.com
Glanrafon, Pentrefelin, Cricieth, Gwynedd, LL52 0PT
Parc Glynllifonff: 01286 830222
Mae Parc Glynllifon yn erddi hanesyddol ac yn ganolfan grefft. Mae yna raglen flynyddol o ddigwyddiadau celfyddydol yn cynnwys yr Ŵyl grefft a bwyd blynyddol ac mae yno hefyd amffitheatr awyr agored yn y gerddi.
www.gwynedd.gov.uk/parcglynllifonparcglynllifon@gwynedd.gov.uk
Parc Glynllifon, Ffordd Clynnog, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5DY
Pethau Melysff: 01766 512569
Wedi ei leoli yn yr Harbwr ym Mhorthmadog mae Pethau Melys sy’n siop grefftau / café. Mae Pethau Melys wedi ei sefydlu ac yn cael ei redeg gan Tom Gloster, crochenydd, a Myfanwy Griffiths, dylunydd tecstilau. Bydd Pethau Melys yn gwerthu detholiad o waith artistiaid lleol sydd wedi symud o’r ardal a'u crefftwaith eu hunain, sydd wedi ei greu yn y fan a’r lle.
www.pethaumelys.co.ukpethaumelys@mail.com
10 Pen Cei, Yr Harbwr, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9AT
Pontio Bangorff: 01248 382828
Bydd Pontio, canolfan newydd Bangor ar gyfer y celfyddydau ac arloesi, sydd i’w hagor yn 2014, yn safle ar gyfer cynyrchiadau theatr trawiadol, ffilm, cerddoriaeth, syrcas, dawns a chelfyddydau perfformio arloesol eraill.
Bydd yn darparu cyfleusterau newydd eithriadol ac yn gweddnewid y ffordd yr ydym yn addysgu a dysgu, datblygu ymchwil arloesol a thechnolegau newydd.
I ddathlu’r daith tuag at agor, mae Pontio eisoes yn cynnal digonedd o weithgareddau i ddifyrru pawb, o nosweithiau cabaret a theatr arbrofol, i nosweithiau ffilm a sinema, a dramâu ar gyfer yr holl deulu. Mae rhywbeth yma at ddant pawb!
Cynhelir digwyddiadau Pontio mewn amrywiaeth o leoliadau ym Mangor a’r cylch.
Hoffem gadw cysylltiad â chi, clywed eich barn a’ch gwahodd i ddigwyddiadau yn y dyfodol. I gael mwy o wybodaeth am ein rhaglen dymhorol o ddigwyddiadau, ewch i’r wefan
www.pontio.co.ukinfo@pontio.co.uk
Portmeirionff: 01766 772321
Rydan ni’n gallu cynnig lleoliad i ddigwyddiadau megis theatr awyr agored, cyngerddau a chynadleddau.
www.portmeirion-village.comrobin@swyddfa.co.uk
Portmeirion, Gwynedd, LL48 6ER
Theatr Harlechff: 01766 780667
Mae Theatr Harlech yn cynnal rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau gan gynnwys ffilmiau ac arddangosfeydd ynghyd ag amrywiaeth helaeth o berfformiadau byw. Mae’r theatr hefyd yn cynnig cyrsiau cymunedol ac yn gallu darparu lle ar gyfer cynnal cyfarfodydd a chynadleddau. Ceir manylion llawn ar ein gwefan.
www.theatrharlech.comjacqui@theatrharlech.com
Harlech, Gwynedd LL48 6EE
Y Ganolfanff: 01766 513372
Canolfan amlbwrpas ble y cynhelir arddangosfeydd amrywiol, cyngherddau, ffeiriau crefft, dramâu, ymchwiliadau cyhoeddus, cyfarfodydd a chyrsiau ymarfer.
www.y-ganolfan.comgwybodaeth@y-ganolfan.com
Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9LU

