header image  
Cystadleuaeth

Arddangosfeydd Newydd yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor

Mae dwy arddangosfa yn cael eu cynnal ochr yn ochr â’i gilydd yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ym Mangor hyd Chwefror 25ain. Roedd yr agoriad swyddogol yn cael ei gynnal nos Wener Ionawr 13.

Mae’r arddangosfa Storïau a Siwrnai yn dathlu diwedd blwyddyn Nichola Goff a Michael McMillan fel artistiaid preswyl gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yn rhedeg ochr yn ochr â arddangosfa ‘Ffigwr yn Newid/Tirwedd yn Llifo’, (Mutable Figure/Flux of Landscape) gan Elizabeth Ashworth.

Mae Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eisoes wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau a digwyddiadau sy’n dod â chleifion, ymwelwyr, gwirfoddolwyr a staff at ei gilydd gydag artistiaid a’r gymuned leol i fwynhau’r celfyddydau.

Mae Nichola Goff a Michael McMillan wedi gweithio ar nifer o brosiectau yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Llandudno rhwng 2010 a 2011 yn gweithio gyda chleifion, gofalwyr a staff yr ysbyty fel rhan o Raglen y Celfyddydau mewn Iechyd a Lles Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Dywedodd Nichola Goff artist/ gwneuthurwr print fu’n gweithio ar Ward Arennol yn Ysbyty Gwynedd:

“Fel artist preswyl rwyf wedi mwynhau’r sialensiau, y cynnwrf a’r hyfrydwch o weithio gyda chleifion sy’n derbyn triniaeth dialysis, y gofalwyr a’r staff. Cefais groeso cynnes yn y Ward Arennol, roedd y flwyddyn yn daith o hunan ddarganfyddiad fel artist yn gweithio mewn amgylchedd newydd a heriol. Roedd hefyd yn ddarganfyddiad i’r rhai oedd yn cymryd rhan, yn canfod bod ganddynt dalentau celfyddydol na wyddent amdanynt gynt.”

Ychwanegodd Michael McMIllan, ysgrifennydd a churadur fu’n gweithio ar Ward Alaw Ysbyty Gwynedd a Chlinig Rhiwmatoleg yn Ysbyty Llandudno:

“Fel artist preswyl cefais y cyfle i gyfweld â chleifion a gofalwyr yn eu hystafelloedd byw.  Defnyddiais hanes llafar a deunydd ffotograffig i ffurfio sail y gosodiad ‘Yr Ystafell Aros’ gyda mynediad gan gleifion yn yr ystafell aros go iawn y wardiau a’r clinigau y bûm yn gweithio ynddynt.

Mae’r arddangosfa ‘Ffigwr yn Newid/Tirwedd yn Llifo’, (Mutable Figure/Flux of Landscape) gan Elizabeth Ashworth yn arddangos lluniau diweddar sy’n ganlyniad wyth mis o waith gan yr artist o Lanfairfechan yn dilyn grant prosiect gan Cyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu ei thema.

Mae’r tirweddau i gyd o Ogledd Cymru – yn aml draethau Ynys Môn a Llanfairfechan. Nid yw’r lluniau yn rhai realistic nac yn rhamantus ond yn archwilio syniad gwahanol o sut mae tirwedd sy’n newid yn gallu ein gorlethu, ac yn gwneud i ni deimlo yn unig. Ar yr un pryd bwriad yr artist yw i’r gwaith fod yn galonogol a dyrchafol.

Dywedodd Delyth Gordon, Swyddog Celf Gweledol Cyngor Gwynedd: “Mae Amgueddfa ac Oriel Gwynedd yn falch iawn o  gynnal y ddwy arddangosfa a fydd yn darparu cyfle i’r gymuned leol weld pa mor fuddiol ydi’r datblygiadau hyn yng ngofal iechyd ac i ddod i fwynhau’r gwaith prydyddol hwn gan Liz Ashworth. Byddwn yn argymell unrhyw un sydd â diddordeb i gymryd y cyfle i ddod i weld a gwerthfawrogi’r gweithiau celf hyn.”

Yn ogystal â’r ddwy arddangosfa hon, mae arddangosfa newydd i’w gweld yn yr Arddangosfa yn ogystal – Newid Siâp. Mae siâp corff pawb yn unigryw, ac yn newid drwy gydol eu bywydau. Mae ffasiwn yn dweud wrthym ni beth i’w wisgo, a beth i’w osgoi, ac mae pobl wedi ceisio newid siâp eu corff ar hyd yr oesau – drwy wisgo dillad isaf gwahanol, rhai sy’n gwasgu neu rai wedi’u padio – yn ogystal â mynd ar ddiet. Gan ddefnyddio dillad isaf a dillad arferol o gasgliad gwisgoedd eang Amgueddfa Gwynedd, mae’r arddangosfa hwn yn edrych ar sut mae siâp pobl yn newid. Mae croeso i chi wisgo fyny! Mae’r arddangosfa hon i’w gweld yn yr arddangosfa hyd 14eg o Ebrill.

Mae’r oriel a’r amgueddfa ar agor i’r cyhoedd: dydd Mawrth – Gwener 12:30 – 4.30, dydd Sadwrn 10:30 – 4:30. Mynediad am ddim. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r arddangosfa, cysylltwch ag Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor 01248 353368 neu ewch i www.gwynedd.gov.uk/amgueddfeydd

Rho Ymateb

Your email address will not be published. * gofynnol

*

HTML: Gelli di ddefnyddio’r tagiau yma: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>