header image  
Cystadleuaeth

Swyddi i Ganolfan Gelfyddydol Newydd yng Ngaernarfon

Yn dilyn cau Oriel Dafydd Hardy y llynedd, mae rhai o aelodau craidd yr Oriel, sy’n cynnwys artistiaid, arddangoswyr a chynorthwywyr, wedi creu grŵp cydweithredol o’r enw ‘Bocs’. Eleni gyda chymorth staff  Dafydd Hardy a chefnogwyr eraill, mae’r Bocs wedi bod yn brysur yn gweithio tuag at agor canolfan gelfyddydol newydd yng Nghaernarfon.

Bydd y ganolfan, Tŷ Glyndŵr, yn cynnig safle arddangos, stiwdios artistiaid, safle gweithdai a chanolfan cyfeirio’r celfyddydau.

Mae’r grŵp yn dal yn chwilio am arian ar gyfer gorffen yr ailwampio’r adeilad, talu am offer a deunyddiau, ond y newyddion da yw bod y grŵp yn gallu hysbysebu am ddwy swydd i weithwyr ar ei liwt ei hun (freelance) i gynorthwyo i gael ei lle wedi ei sefydlu.

Mae un swydd yn un i redeg y ganolfan a’r oriel o ddydd i ddydd – am fwy o wybodaeth cliciwch yma. Mae’r ail swydd yn gynorthwyydd i gynnal digwyddiadau cymunedol a chyhoeddus – cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Dyma gyfle arbennig i fod yn rhan o ddechrau rhywbeth cyffrous.

Un Ymateb i Swyddi i Ganolfan Gelfyddydol Newydd yng Ngaernarfon

  1. Meddai raji salan:

    Dear Sir/Madam,
    I am a fine art student graduate from Birmingham and currently doing my teacher training in art for secondary students, it would be great to join the team if there are any relevant jobs, such as workshop artist for schools and public, i would like to hear from you.
    Thank you.

Rho Ymateb

Your email address will not be published. * gofynnol

*

HTML: Gelli di ddefnyddio’r tagiau yma: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>