Mewn partneriaeth newydd cyffrous, bydd Cyfle yn cydweithio gyda Cyngor Gwynedd a Fforwm Celfyddydau Gwynedd ar ddarparu rhaglen o hyfforddiant pwrpasol ym maes y cyfryngau cymdeithasol a digidol ar gyfer artistiaid a chwmniau creadigol yngNgwynedd.
Heddiw cyhoeddwyd 3 digwyddiad cyffrous sydd i’w cynnal ym misChwefror a Mawrth 2012 yn Nghanolfan Hyfforddi Cyfle, Galeri, Caernarfon.
Os ydych chi’n awyddus i ddysgu mwy am y maes dyma gyfle euraidd i gael cyflwyniad i’r posibiliadau eang y mae’r cyfryngau hyn yn eu cynnig i ymarferwyr creadigol i hyrwyddo, cyfathrebu a chreu.
“Mae Cyfle yn hynod falch o allu cynnig yr hyfforddiant yma gan ein bod yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd datblygu sgiliau creadigol digidol i ddyfodol llwyddiannus pob math o sectorau gwaith, gan gynnwys y sector Celfyddydol yn arbennig” medd Shân Gwenfron Jones, Rheolwr Hyfforddi Gogledd Cymru gyda Cyfle.
“Drwy gydweithio gyda Cyngor Gwynedd a Fforwm Celfyddydau Gwynedd rydym wedi gallu cynnig cyrsiau o’r safon uchaf fydd yn rhoi’r sgiliau diweddaraf i unigolion a cwmniau am bris cystadleuol iawn”
Gellir mynychu’r 3 am bris gostyngol anhygoel o £70, neu archebu lle yn unigol ar y cyrsiau canlynol:
Cyflwyniad i GyfryngauCymdeithasol a Digidol(CynhadleddHannerDiwrnod)
21 Chwefror, 2012.10yb – 1yp. £20
Tiwtor – Rhys Miles Thomas, Rheolwr Prosiect Aml-lwyfan Cyfle
Saethu a Golygu Ffilm a Chreu Gwefan Syml (Cwrs Dau Ddiwrnod)
15 & 16 Mawrth, 2012. 9:30yb – 5yp. £40
Tiwtor – David Baugh
Datblygu App argyfer iPhone / iPod Touch (CwrsUndydd)
20 Mawrth, 2012. 9:30yb – 5yp. £20
Tiwtor – David Baugh
Am fanylion pellach cysylltwch â Gwynedd Greadigol ar 01286 679721 / 07789 032517 / annession@gwynedd.gov.uk / www.gwyneddgreadigol.com
Am fwy o fanylion am waith Cyfle gydaprosiectautebyg, neuigaelsgwrs am eingwasanaethauhyfforddiamrywiol, cysylltwch â ShânGwenfron Jones ynswyddfaCyfle ynGaleri, Caernarfon ar 01286 668003 / shan@cyfle.co.uk




Please send me details of how to book a place on all three of your recently advertised digital media workshops.
Many thanks,
Lucy.
Frondirion, Carreg-y-gath,
Rhiwlas, Bangor, LL57 4HD.