CRE@DIGIDOL
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Gyfryngau Cymdeithasol a Digidol i’r Diwydiant Celfyddydol yng Ngwynedd.
Mae Cyngor Gwynedd, Cyfle a Fforwm Gelfyddydau Gwynedd yn cydweithio i ddarparu rhaglen o hyfforddiant pwrpasol ym maes y cyfryngau cymdeithasol a digidol ar gyfer artisitiad a chwmniau creadigol yng Ngwynedd. Os ydych chi’n awydduas i ddysgu mwy am y maes dyma gyfle euraidd i gael cyflwyniad i’r posibliadau eang y mae’r cyfryngau hyn yn eu cynnig i ymarferwyr creadigol i hyrwyddo, cyfathrebu a chreu. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.
Be ydi gwerth y Celfyddydau yn ein bywydau pob dydd?
Dywed Alun Ffred Jones – Aelod Cynulliad dros Arfon
Mae gweithgareddau diwylliannol yn chwarae rhan allweddol mewn dod a phobol at eu gilydd…mae’n rhaid inni wneud popeth y gallwn i godi ymwybyddiaeth o’r nifer o gyfleoedd cyffrous a heriol sydd ar gael wrth gymryd rhan mewn gweithgaredd creadigol ..
A dyna’n union mae Fforwm Celfyddydau Gwynedd yn anelu i’w wneud. Felly, beth am gymryd ychydig funudau i bori drwy wefan Fforwm Gelfyddydau Gwynedd a darganfod y cyfoeth sydd gennym yn y sir, o nosweithiau barddoniaeth i Sgwad Sgwennu, o gelfyddyd gain i’r Criw Celf, o gerddoriaeth glasurol i gig a gŵyl yn yr haf efo bandiau roc, artistiaid acwstig . Yr hen a’r newydd, o ddawnsio gwerin i hip hop, o ddrama arloesol newydd i’r hen ffefrynnau yn sioe glybiau. Dewch i ddarganfod prydferthwch a llonyddwch Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy, bwrlwm ac egni Galeri yng Nghaernarfon, cynnwrf Amgueddfa ac Oriel Gwynedd a’r llu o orielau bach a mawr ar hyd y sir i lonni eich calon ac agor eich llygaid i fyd newydd, creadigol.
Rhowch gynnig arni , chewch chi mo’ch siomi, mwynhewch !
Beth am fynd i weld tudalen Gwynedd Greadigol ar facebook am newyddion, digwyddiadau a cyfleoedd i artistiaid.







