Artistiaid

Sue Terrey



Lliw yw fy angerdd ac rwy’n gweithio gyda ffibr, pastel neu baent. Rwyf wedi bod yn wneuthurwr ffelt ers dros 20 mlynedd ac yn beintiwr ers blynyddoedd lawer.

Tirwedd Pumlumon, Dyffryn Dyfi a Chadair Idris yw fy ysbrydoliaeth ac rwyf wedi treulio oriau’n gwlychu yn yr oerfel, neu’n torheulo mewn heulwen wrth arsylwi ar ardal sy’n atseinio ar lefel ddofn fy enaid. Lleoedd amrwd, anfrodorol gydag awyr anferth yw man cychwyn fy ngwaith.

Mewn pastelau, fy hoff ddewis yw’r pastelau Unison deniadol a wnaed yn Northumbria; mae eu lliwiau’n ymddangos yn berffaith ar gyfer yr ucheldiroedd llwm yr hoffwn grwydro ynddynt ac mae eu gwead yn berffaith i mi.

Fel arfer, mae fy ngwaith ffibr yn cael ei wneud gyda chymysgedd o ffibr Merino lliwgar a ffibr brîd Prydeinig lliwgar; mae rhywfaint o’r gwaith yn cynnwys ffibr rydw i wedi’i brosesu o gnu rwyf wedi eu cael gan ffermwyr lleol. Yn aml rwy’n ymgorffori gwahanol edafedd yn fy ngwaith fel pe baent yn llinellau o bastel neu baent a chan ddibynnu a ydynt wedi eu ffeltio neu beidio, maent yn ymateb mewn gwahanol ffyrdd yn y ffibr.

Cyfeiriad: Godre’r Coed, Aberhosan, Machynlleth, Powys SY20 8RA

Ffôn: 01654 703474

Gwefan: www.sueterrey.co.uk

Ebost: sue@sueterrey.co.uk