Croeso i wefan Gwynedd Greadigol
Ers cyn dyddiau’r Rhufeiniaid bu Gwynedd yn ganolbwynt gweithgaredd creadigol. Mae ein traddodiadau barddol a chwedlonol wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn y sir, a bu golygfeydd ysblennydd ein môr a mynydd yn ysbrydoliaeth i weithiau celfyddydol o bwys ar draws y canrifoedd. Erys Gwynedd yn ferw o weithgaredd celfyddydol eang o’r safon uchaf sy’n cael eu hadlewyrchu yn orielau, neuaddau a gwyliau'r sir.
Mae’r wefan hon, sy’n hyrwyddo celfyddydau Gwynedd, hefyd yn adlewyrchu'r egni hwn. Mae yma drysorau o dalentau gyda’r wybodaeth yn hanfodol i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd sy’n ymddiddori yn y celfyddydau yn eu holl amrywiaeth.
Mae'r cynnwys, a gaiff ei addasu’n rheolaidd i adlewyrchu datblygiadau diweddara’r maes celfyddydol yn y sir, yn ymddangos yn ogystal mewn llyfryn gan Fforwm Celfyddydau Gwynedd. Mae'r llyfryn hwnnw ar gael mewn nifer o leoliadau hyd a lled y sir. Felly porwch drwy'r wefan, gwnewch ymdrech deg i fynychu'r digwyddiadau, ewch i weld gwaith pob un o’r artistiaid a'r mudiadau dan sylw, prynwch ac ewch â Gwynedd Greadigol adref gyda chi. ‘Chewch chi mo’ch siomi.
Luned Emyr
Llywydd Fforwm Celfyddydau Gwynedd


